P-06-1177 Darparu cynhyrchion mislif yn rhad ac am ddim i bob person sy'n cael mislif yng Nghymru

P-06-1177 Darparu cynhyrchion mislif yn rhad ac am ddim i bob person sy'n cael mislif yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lili Smith, ar ôl casglu cyfanswm o 481 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Nid yw'r £3.1 miliwn a ddarperir i ysgolion yng Nghymru i brynu cynhyrchion mislif yn ddigon i gadw pob merch ifanc allan o dlodi mislif ac mewn addysg. A minnau wedi profi embaras mislif yn uniongyrchol, gwn sut deimlad yw eistedd drwy wers, yn gwaedu drwy fy nghynnyrch mislif oherwydd bod gen i ormod o gywilydd gofyn i ffrind, neu athro, a gawn fenthyg y cynnyrch ganddyn nhw. Mae angen inni roi terfyn ar y stigma o ran y mislif, a rhoi cynhyrchion mislif am ddim i bob merch.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Ni all 1 o bob 10 merch 14-21 oed yn y DU fforddio cynhyrchion mislif. Mae 49 y cant o ferched wedi colli diwrnod ysgol oherwydd hyn. Mae merched ifanc yn peryglu eu hiechyd corfforol drwy wneud cynhyrchion mislif eu hunain o hancesi papur, sanau a bagiau plastig.

 

Nid problem i ferched ifanc yn eu harddegau yn unig mo hon. Mae 56 y cant o ferched ifanc 18-24 oed wedi gorfod mynd ddiwrnod heb gynhyrchion mislif hanfodol, neu ddefnyddio llai ohonynt oherwydd prinder arian.

 

Mae llawer o fenywod yn teimlo cywilydd oherwydd eu mislif, ac maen nhw hyd yn oed yn teimlo cywilydd ynglŷn â phrynu cynhyrchion mislif angenrheidiol iddyn nhw’u hunain. Mae'r cywilydd hwn yn hynod niweidiol gan ei fod yn atal sgyrsiau angenrheidiol am y mislif, sy’n arwain at ddiffyg gwybodaeth am eu goblygiadau yn y pen draw. Er enghraifft, diffyg lleddfu poen cramp mislif effeithiol, sy’n gallu arwain at effaith ar y gallu i weithio yn yr ystafell ddosbarth.

 

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sydd ar ddod ar y Cynllun Gweithredu Strategol ar Urddas Mislif ac i annog y deisebydd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad fel ffordd wych o fynd â'r ymgyrch hon ymhellach. Wrth wneud hynny cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd am godi mater mor bwysig, ac ychwanegodd fod yr Aelodau yn cefnogi'r ddeiseb yn llawn, a chau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/09/2021.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2021