P-06-1175 Stopiwch y cyfnodau atal byr yn ystod gwyliau hanner tymor. Dyma'r unig seibiannau y caniateir i staff addysgu eu cael
P-06-1175 Stopiwch y cyfnodau atal byr yn ystod gwyliau hanner tymor. Dyma'r unig seibiannau y caniateir i staff addysgu eu cael
Petitions4
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Lorraine Robinson, ar ôl casglu cyfanswm o 52 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym
wedi cael un cyfnod atal byr eisoes yn ystod hanner tymor ac nid oedd staff
addysgu yng Nghymru yn gallu mynd i unrhyw le na gwneud dim byd. Nid oes modd i
ni drefnu wythnos neu ddwy i ffwrdd o'r gwaith yn ôl ein dymuniad, mae'n rhaid
iddynt fod yn ystod cyfnod gwyliau'r ysgol yn unig. Nid yw ond yn deg bod staff
addysgu a'r plant yn gallu mynd i fwynhau eu hoe am eu holl waith caled yn
ystod y tymor, yn union fel y gallem pe byddem yn cael dewis gwyliau. Rhowch y
rhyddid i blant, staff, a rhieni fwynhau amser gwerthfawr gyda'i gilydd yn
gwneud yr hyn y maent am ei wneud.

Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd yr anawsterau yr oedd hyn yn eu
hachosi i bobl yn y sector. Nododd y Pwyllgor fod cyfnodau atal byr yn fesur
brys i fynd i'r afael â risgiau i iechyd y cyhoedd, a chytunodd i gau'r ddeiseb
a diolch i'r deisebydd.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/09/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dyffryn Clwyd
- Gogledd Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2021