P-06-1174 Mae angen atal Llywodraeth Cymru a grwpiau cyhoeddus rhag gwneud Cymru yn Genedl sy'n Noddfa

P-06-1174 Mae angen atal Llywodraeth Cymru a grwpiau cyhoeddus rhag gwneud Cymru yn Genedl sy'n Noddfa

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ted Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 1,619 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae Llywodraeth Cymru a grwpiau cyhoeddus, wrthi'n hyrwyddo Cymru fel "cenedl sy’n noddfa" er mwyn i wladolion tramor (ffoaduriaid a cheiswyr lloches) ddod i fyw yng Nghymru. NID dyma yw ewyllys mwyafrif pobl Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â'u hetholwyr eto (h.y Cymru fel cenedl) ynglŷn â'r mater hwn. Os daw Cymru i fod yn Genedl sy’n Noddfa, bydd treftadaeth Cymru yn cael ei herydu yn gyflym iawn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Dyma’r dyfyniad a geir ar https://wales.cityofsanctuary.org/cy/ "Rydym yn falch bod gennym gefnogaeth Llywodraeth Cymru eisoes ac rydym wedi cychwyn ar waith hynod o gyffrous gyda phrifysgolion, y gwasanaeth iechyd ac undebau llafur". Er bod lleiafrif bach iawn o bobl yng Nghymru, yn barod i agor eu breichiau, eu cartrefi a'u gwlad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, NID yw hynny'n cynrychioli’r rhan fwyaf o bobl sy’n byw yng nghenedl Cymru.

 

Yn syml, ni allwn ni fel cenedl gynnal mwy o ffoaduriaid a cheiswyr lloches i'w lleoli/cartrefu yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn methu fforddio gofalu am bobl a theuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd neu do uwch eu pennau. Mae miloedd o bobl/teuluoedd (gan gynnwys plant) sy'n ddigartref yng Nghymru ac sydd angen cymorth ar frys. Gallai'r arian a arbedir trwy beidio â derbyn y ffoaduriaid a'r ceiswyr lloches hyn yng Nghymru, gael ei wario ar helpu pobl Cymru sydd ag angen mawr amdano.

 

Rydym ni (y rhai sydd wedi'u llofnodi) eisiau diddymu Cymru fel cenedl sy’n noddfa.

 

A picture containing indoor, bed, blanket

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgynghori ynghylch Cynllun Cenedl Noddfa, ac roedd yr adroddiad yn dangos cefnogaeth sylweddol i'r dull gweithredu hwn. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad hefyd nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb hon a chytunodd i'w chau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/09/2021.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Abertawe
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2021