P-06-1174 Mae angen atal Llywodraeth Cymru a grwpiau cyhoeddus rhag gwneud Cymru yn Genedl sy'n Noddfa
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Ted Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 1,619 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
Llywodraeth Cymru a grwpiau cyhoeddus, wrthi'n hyrwyddo Cymru fel "cenedl
sy’n noddfa" er mwyn i wladolion tramor (ffoaduriaid a cheiswyr lloches)
ddod i fyw yng Nghymru. NID dyma yw ewyllys mwyafrif pobl Cymru. Nid yw
Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â'u hetholwyr eto (h.y Cymru fel cenedl) ynglŷn
â'r mater hwn. Os daw Cymru i fod yn Genedl sy’n Noddfa, bydd treftadaeth Cymru
yn cael ei herydu yn gyflym iawn.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Dyma’r
dyfyniad a geir ar https://wales.cityofsanctuary.org/cy/ "Rydym yn falch
bod gennym gefnogaeth Llywodraeth Cymru eisoes ac rydym wedi cychwyn ar waith
hynod o gyffrous gyda phrifysgolion, y gwasanaeth iechyd ac undebau
llafur". Er bod lleiafrif bach iawn o bobl yng Nghymru, yn barod i agor eu
breichiau, eu cartrefi a'u gwlad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, NID yw
hynny'n cynrychioli’r rhan fwyaf o bobl sy’n byw yng nghenedl Cymru.
Yn
syml, ni allwn ni fel cenedl gynnal mwy o ffoaduriaid a cheiswyr lloches i'w
lleoli/cartrefu yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn methu fforddio
gofalu am bobl a theuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd neu
do uwch eu pennau. Mae miloedd o bobl/teuluoedd (gan gynnwys plant) sy'n
ddigartref yng Nghymru ac sydd angen cymorth ar frys. Gallai'r arian a arbedir
trwy beidio â derbyn y ffoaduriaid a'r ceiswyr lloches hyn yng Nghymru, gael ei
wario ar helpu pobl Cymru sydd ag angen mawr amdano.
Rydym
ni (y rhai sydd wedi'u llofnodi) eisiau diddymu Cymru fel cenedl sy’n noddfa.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi bod Llywodraeth Cymru
eisoes wedi ymgynghori ynghylch Cynllun Cenedl Noddfa, ac roedd yr adroddiad yn
dangos cefnogaeth sylweddol i'r dull gweithredu hwn. Daeth y Pwyllgor i'r
casgliad hefyd nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb hon a
chytunodd i'w chau.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/09/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Abertawe
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2021