Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)
Cyflwynwyd y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad
(Rhent Tir) (y Bil) yn Nhŷ'r
Arglwyddi ar 12 Mai 2021.
Mae teitl hir y
Bil yn nodi mai ei ddiben “yw gwneud darpariaeth ar gyfer rhent sy’n daladwy o
dan lesoedd hir anheddau; a dibenion cysylltiedig.”
Mae'r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Derbyniwyd
y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad
(Rhent Tir) yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Rhagfyr 2021.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) –Rhagfyr 2021
Ar 3 Rhagfyr
2021, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 172KB).
Cytunodd (PDF
41.7KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) (Memorandwm Rhif 3) ei drafod
ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 14 Rhagfyr 2021.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ei adroddiad (PDF
14.8MB) ar y Memoranda ar 13 Rhagfyr 2021.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Tachwedd 2021
Ar 26 Tachwedd 2021, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF
199KB).
Cytunodd (PDF
41.6KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) (Memorandwm Rhif 2) ei drafod
ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 9 Rhagfyr 2021.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 224KB) ar y Memorandwm Rhif 2 ar 9
Rhagfyr 2021. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 13
Rhagfyr 2021.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Mai 2021
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 184KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 26 Mai
2021.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi
cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a
bydd
angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 14 Hydref 2021. (PDF 43.9KB)
Yn y cyfarfod ar
28 Medi 2021, cytunodd
(PDF 42.1KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad
i 18 Tachwedd 2021.
Yn y cyfarfod ar
4 Tachwedd 2021, cytunodd
(PDF 43.5KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad
i 2 Rhagfyr 2021.
Yn y cyfarfod ar
23 Tachwedd 2021, cytunodd (PDF
42.9KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad i 9
Rhagfyr 2021.
Roedd y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn disgwyl clywed tystiolaeth gan y
Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei gyfarfod ar 15 Tachwedd 2021.
Fodd bynnag, cafodd y sesiwn hon ei chanslo ar fyr rybudd oherwydd amgylchiadau
nad oedd modd eu rhagweld. Yn lle’r sesiwn dystiolaeth, ysgrifennodd
y Pwyllgor at y Gweinidog ar 15 Tachwedd 2021 ac fe ymatebodd
y Gweinidog ar 16 Tachwedd 2021.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
321KB) ar 7 Rhagfyr 2021. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 13 Rhagfyr 2021.
Gellir gweld
rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol,
gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/07/2021
Dogfennau
- Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad: Ymateb i adroddiadau'r Pwyllgor - 13 Rhagfyr 2021 PDF 560 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a Bil Diogelwch Adeiladau Llywodraeth y DU - 16 Tachwedd 2021 PDF 522 KB
- Llythyr gan Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Newid Hinsawdd: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a Bil Diogelwch Adeiladau Llywodraeth y DU - 15 Tachwedd 2021 PDF 146 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) - 22 Tachwedd 2021 PDF 259 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i'r Gweinidog Newid Hinsawdd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) - 18 Tachwedd 2021 PDF 79 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i'r Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) - 11 Tachwedd 2021 PDF 319 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i'r Gweinidog Newid Hinsawdd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) - 5 Tachwedd 2021 PDF 70 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i'r Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) – 1 Hydref 2021 PDF 264 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i'r Gweinidog Newid Hinsawdd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) - 24 Medi 2021 PDF 93 KB