Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Cyflwynwyd y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 12 Mai 2021.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai ei ddiben “yw gwneud darpariaeth ar gyfer rhent sy’n daladwy o dan lesoedd hir anheddau; a dibenion cysylltiedig.”

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Rhagfyr 2021.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) –Rhagfyr 2021

 

Ar 3 Rhagfyr 2021, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 172KB).

 

Cytunodd (PDF 41.7KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) (Memorandwm Rhif 3) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 14 Rhagfyr 2021.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ei adroddiad (PDF 14.8MB) ar y Memoranda ar 13 Rhagfyr 2021.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Tachwedd 2021

 

Ar 26 Tachwedd 2021, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 199KB).

 

Cytunodd (PDF 41.6KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) (Memorandwm Rhif 2) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 9 Rhagfyr 2021.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 224KB) ar y Memorandwm Rhif 2 ar 9 Rhagfyr 2021. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 13 Rhagfyr 2021.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mai 2021

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 184KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 26 Mai 2021.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 14 Hydref 2021. (PDF 43.9KB)

 

Yn y cyfarfod ar 28 Medi 2021, cytunodd (PDF 42.1KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad i 18 Tachwedd 2021.

 

Yn y cyfarfod ar 4 Tachwedd 2021, cytunodd (PDF 43.5KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad i 2 Rhagfyr 2021.

 

Yn y cyfarfod ar 23 Tachwedd 2021, cytunodd (PDF 42.9KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad i 9 Rhagfyr 2021.

 

Roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn disgwyl clywed tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei gyfarfod ar 15 Tachwedd 2021. Fodd bynnag, cafodd y sesiwn hon ei chanslo ar fyr rybudd oherwydd amgylchiadau nad oedd modd eu rhagweld. Yn lle’r sesiwn dystiolaeth, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog ar 15 Tachwedd 2021 ac fe ymatebodd y Gweinidog ar 16 Tachwedd 2021.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 321KB) ar 7 Rhagfyr 2021. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 13 Rhagfyr 2021.

 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/07/2021

Dogfennau