P-06-1171 Cyhoeddwch dystiolaeth glir fod COVID 19 yn cael ei ledaenu mewn tafarndai a bwytai lle mae mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith
P-06-1171 Cyhoeddwch dystiolaeth glir fod COVID 19 yn cael ei ledaenu mewn tafarndai a bwytai lle mae mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Lee Walters, ar ôl casglu cyfanswm o 87 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ni all
Llywodraeth Cymru ddangos tystiolaeth glir i gyfiawnhau'r penderfyniad unochrog
i gyflwyno’r cyfnod atal byr sydd mewn grym ar hyn o bryd am 17 diwrnod. Hefyd,
nid yw wedi cyhoeddi strategaeth i ddod â’r cyfyngiadau presennol i ben.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
penderfyniad Llywodraeth Cymru i orfodi’r cyfyngiadau Covid presennol wedi
cythruddo nifer. Mae llawer yn dadlau bod y cyfyngiadau’n mynd yn groes i
hawliau dynol mewn cymdeithas ddemocrataidd wâr.
Dylid
cynghori, yn hytrach na gorfodi pobl, i gadw at y cyfyngiadau, gan esbonio’r
canlyniadau’n glir. Hy y risg o gael eich heintio, o gael eich taro’n wael, o
drosglwyddo’r haint i eraill a’r posibilrwydd y gall yr haint eich lladd.
Mae
nifer yn poeni am yr effeithiau niweidiol ar yr economi a bywoliaeth pobl, am
yr angen i ysbytai ohirio triniaethau nad ydynt yn gysylltiedig â Covid-19, ac
am gyfyngiadau teithio difrifol etc.
Nid oes
modd cael prawf oni bai’ch bod yn dangos symptomau, ac nid oes modd cael prawf
gwrthgorff.
Hyn oll
er nad yw ystadegau iechyd Llywodraeth Cymru yn cynnig unrhyw dystiolaeth
bendant.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2021