Cyllideb Comisiwn y Senedd 2022-23
Cyllideb Comisiwn y Senedd 2022-23
Rhaid i Gomisiwn y
Senedd osod ei gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gerbron y Senedd
i ganiatáu i’r Pwyllgor Cyllid
graffu ar ei chynigion. Ar ôl i’r Pwyllgor gwblhau ei waith craffu, bydd y
Comisiwn yn cyhoeddi cyllideb derfynol, sydd i’w thrafod yn y Cyfarfod
Llawn cyn y bleidlais i’w chymeradwyo gan y Senedd cyfan.
Gosododd Comisiwn y Senedd ei gyllideb ddrafft
ar gyfer 2022-23 (PDF, 932KB) gerbron y Cynulliad ym mis Medi 2021.
Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Comisiwn;
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/09/2021