P-06-1168 Ystyriwch ail-wneud y flwyddyn academaidd gyfredol hon ar gyfer myfyrwyr ar draws cymru
P-06-1168 Ystyriwch ail-wneud y flwyddyn academaidd gyfredol hon ar gyfer myfyrwyr ar draws cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Hayley Whittington-Pike, ar ôl casglu cyfanswm o 184 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rwy'n
erfyn ar y llywodraeth i ystyried ail-wneud y flwyddyn academaidd hon pe bai
cau ysgolion yn dod yn rhan o’r cyfyngiadau “cyfnod atal byr”. Nid yw'n deg
disgwyl i'r plant ddal i fyny ag addysg a gollwyd y llynedd, tra’n cael
blwyddyn academaidd sy’n dechrau / stopio eleni. Ni ddylid atal ein plant rhag
cyflawni eu potensial llawn, ac ni ddylem ni fel rhieni fod yn derbyn eu bod
dim ond - yn dod drwyddi rywsut. Nid oes gan bob plentyn yr un moethau o ran
rhieni gartref i helpu / mynediad at adnoddau.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/07/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac o
ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynigion yn flaenorol i ddisgyblion
ailadrodd y flwyddyn ysgol a'r cynllun adfer amgen y mae wedi'i gyhoeddi
cytunodd y Pwyllgor i:
·
ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ofyn am y wybodaeth
ddiweddaraf ar y materion a godir yn y ddeiseb; ac
· unwaith y
daw ymateb gan y Gweinidog, cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
16/07/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyrain Casnewydd
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/06/2021
Dogfennau