Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Caiff Aelodau’r
Senedd (ASau) ofyn Cwestiynau
Llafar i Gomisiwn y Senedd am unrhyw fater sy'n dod o fewn ei gyfrifoldeb.
Bydd Comisiynwyr
a/neu’r Llywydd yn
ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos yn y Cyfarfod Llawn,
yn unol ag amserlen
a bennir gan y Pwyllgor Busnes.
Gall unrhyw Aelod
gyflwyno cwestiwn i’r Swyddfa
Gyflwyno, a rhaid gwneud o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar
gyfer ei ateb. Cyhoeddir y cwestiynau yn ôl y drefn y cawsant eu cyflwyno ar
wefan y
Cofnod. Cyhoeddir yr atebion i’r cwestiynau ar wefan hefyd o fewn 24 awr
iddynt gael eu gofyn.
Math o fusnes: Arall
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/05/2021