Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Caiff Aelodau’r Senedd (ASau) ofyn Cwestiynau
Llafar
i Weinidogion am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.
Bydd Gweinidogion yn ateb cwestiynau unwaith bob
pedair wythnos yn y
Cyfarfod Llawn,
yn unol ag amserlen a bennir gan y Llywodraeth.
Bydd y Swyddfa
Gyflwyno yn
cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff unrhyw
Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Rhaid i'r Aelodau a ddetholir gyflwyno eu cwestiwn
llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar
hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn, ac yna cyhoeddir y
cwestiynau, yn ôl y drefn honno, ar wefan y
Cofnod. Cyhoeddir yr atebion i’r cwestiynau ar wefan hefyd o fewn 24 awr
iddynt gael eu gofyn.
Bydd llefarwyr y
grwpiau yn cael eu galw i ofyn cwestiynau heb hysbysiad i Weinidog yn ystod yr
amser cwestiynau a drefnwyd, fel arfer ar ôl cwestiwn 2.
Math o fusnes: Craffu ar Weinidogion
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/05/2021