Craffu ar y gyllideb
Craffu ar y gyllideb
Yn unol â Rheol
Sefydlog 19, rhaid i’r Pwyllgor Cyllid ystyried a chyflwyno adroddiad ar
unrhyw ddogfen
a osodir gerbron y Senedd
gan Weinidogion
Cymru neu Gomisiwn
y Senedd sy’n cynnwys cynigion o ran defnyddio adnoddau.
Gall y Pwyllgor
hefyd ystyried ac adrodd ar unrhyw fater arall sy’n ymwneud â gwariant o Gronfa
Gyfunol Cymru, neu wariant sy’n effeithio arni.
Fel rhan o’i
gyfrifoldebau, mae’r Pwyllgor yn craffu ar y canlynol fel rhan o’r cylch
cyllideb blynyddol:
Cyllideb Llywodraeth Cymru |
Cyllideb Comisiwn y Senedd |
Amcangyfrif o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio
Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru |
Amcangyfrif o incwm a gwariant Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru |
Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/06/2021