Is-ddeddfwriaeth sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006
Mae Adran 109 o Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006 yn caniatáu i'w Fawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddiwygio
Atodlen 7A neu 7B i Ddeddf 2006, ar yr amod bod drafft o'r Gorchymyn wedi cael
ei gymeradwyo yn gyntaf gan y Senedd a dau Dŷ'r Senedd.
Mae Rheol
Sefydlog 25 yn nodi'r weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn mewn perthynas â
thrafod Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor sydd i'w gwneud o dan adran 109 o Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006.
Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/05/2021