Penodi Cwnsler Cyffredinol
Fel Prif
Gynghorydd Cyfreithiol Llywodraeth Cymru, nid yw’r Cwnsler Cyffredinol yn un o
Weinidogion Cymru ond mae’n aelod o Lywodraeth Cymru. Nid oes rhaid i’r Cwnsler
Cyffredinol fod yn Aelod o’r Senedd.
Rhaid i’r Senedd
gytuno ar argymhelliad y Prif Weinidog i’w Mawrhydi o ran y sawl sydd i’w
benodi’n Gwnsler Cyffredinol (Rheol Sefydlog 9.1). Esbonnir y weithdrefn ar
gyfer penodi Cwnsler Cyffredinol yn fanwl yn Adran F o'r Canllaw
i fusnes llawn cynnar ar ôl etholiad Mai 2021.
Math o fusnes: Busnes Cynnar
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021