Ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd
Yn ystod y cyfarfod cyntaf hwnnw, bydd yn rhaid i'r Senedd ethol Llywydd a
Dirprwy Lywydd (Rheol Sefydlog 6.1).
Etholir y Llywydd yn gyntaf, ac yna etholir y Dirprwy Lywydd. Mae'r
gweithdrefnau ar gyfer ethol Aelod i’r ddwy swydd yn union yr un fath, ac fe'u
heglurir yn fanwl yn Adran C o'r Canllaw
i fusnes llawn cynnar ar ôl etholiad Mai 2021 (PDF, 183KB).
Math o fusnes: Busnes Cynnar
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021