NDM7683 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Dyfodol Cymru
NDM7683 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Dyfodol Cymru
NDM7683 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y ffaith bod llywodraethau olynol Cymru
dan arweiniad Llafur wedi methu â gwella cyfleoedd bywyd pobl Cymru.
2. Yn cydnabod bod Dirprwy Weinidog yr Economi a
Thrafnidiaeth wedi cyfaddef nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei
wneud o ran yr economi.
3. Yn nodi bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol wedi dweud y byddai'n ffôl cael cynllun ar gyfer ôl-groniadau cyn
i'r pandemig ddod i ben.
4. Yn nodi ymhellach bod cyn Brif Weinidog Cymru hefyd
wedi cyfaddef bod Llafur wedi tynnu ei llygad oddi ar y bêl ar addysg.
5. Yn cydnabod, er mwyn ailadeiladu Cymru, fod angen
newid cyfeiriad a chael llywodraeth newydd ar 6 Mai 2021, a fydd yn darparu
cynllun adfer i Gymru, sy'n cynnwys:
a) creu 65,000 o swyddi newydd, gydag o leiaf 15,000 o
swyddi gwyrdd;
b) mynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn amseroedd aros
yng Nghymru;
c) rhoi gorau i danariannu ein pobl ifanc;
d) adeiladu'r seilwaith sydd ei angen ar Gymru gan
gynnwys ffordd liniaru'r M4 ynghyd ag uwchraddio'r A40 a'r A55;
e) cefnogi pobl gyda chostau byw drwy rewi'r dreth gyngor
am ddwy flynedd;
f) rhoi Cymru ar y llwybr tuag at sero net erbyn
2050.
BBC Newyddion
- Theresa May claims Welsh Labour betrayed generation of children - 18 Mai
2018 (Saesneg yn unig)
BBC Newyddion
- Labour minister: 'We don't know what we're doing on economy' -
25 Mehefin 2019 (Saesneg yn unig)
BBC
Newyddion - Covid: Cancer delays 'could cause 2,000 deaths in Wales' -
9 Tachwedd 2020 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, yn wyneb heriau
digynsail o ran llymder, Brexit, newid yn yr hinsawdd a Covid-19, wedi:
a) Sefydlu Banc Datblygu Cymru, sicrhau dros 100,000 o
brentisiaethau pob oed a darparu ryddhad ardrethi busnes heb ei ail, gan gynnwys
dros £580m o ryddhad parhaol i fusnesau bach;
b) Cyflwyno'r Gronfa Triniaethau Newydd, gan sicrhau bod
triniaethau sydd newydd eu cymeradwyo ar gael yn y GIG o fewn 13 diwrnod ar
gyfartaledd;
c) Gwella canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes a
datblygu cwricwlwm newydd radical ar gyfer ein hysgolion;
d) datgan argyfwng newid yn yr hinsawdd a gosod
targed cyfreithiol rwymol cyntaf Cymru i gyflawni allyriadau sero-net;
e) adeiladu 20,000 o gartrefi newydd a chryfhau hawliau’r
rhai sy’n rhentu.
2. Yn nodi bod y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn
Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru.
Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru
Gwelliant 2 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd Cymru dim ond yn adfer yn llwyr drwy
ethol llywodraeth newydd a fydd yn gadael i bobl Cymru, nid San Steffan,
benderfynu ar ein dyfodol.
Yn credu bod angen newid cyfeiriad ar Gymru drwy ganiatáu
i bobl Cymru ddweud eu dweud ynghylch a ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol
drwy gynnal refferendwm annibyniaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd.
Gwelliant 3 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, er mwyn ailadeiladu Cymru, y dylai'r Senedd
nesaf gael pwerau dros faterion sydd wedi'u cadw yn ôl i San Steffan ar hyn o
bryd, gan gynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles, darlledu,
prosiectau ynni, ac Ystâd y Goron.
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/06/2021