NDM7655 Dadl Plaid Cymru - Adolygiad o Gyflogau'r GIG
NDM7655 Dadl Plaid Cymru - Adolygiad o Gyflogau'r GIG
NDM7655 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio argymhelliad Llywodraeth y DU i
Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG am godiad cyflog cwbl annigonol o 1 y cant i
nyrsys a staff eraill y GIG a fyddai'n golygu toriad mewn termau real yn eu
cyflogau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau
pellach i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG yn cefnogi galwadau penodol yr undebau
llafur a chyrff eraill sy'n cynrychioli staff iechyd a gofal cymdeithasol yng
Nghymru am godiad cyflog teg a haeddiannol i adlewyrchu'r aberth a wnaed yn
ystod y pandemig.
3. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu
setliad cyflog a chadw diwygiedig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol,
gan gynnwys isafswm gwarantedig o £10 yr awr i weithwyr gofal i ddod
â'r gwahaniaeth presennol rhwng iechyd a gofal i ben.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod cyflogau'r GIG wedi'u datganoli ac
yn croesawu'r cynnydd ychwanegol o £2.1 biliwn yng nghyllideb Llywodraeth Cymru
ar gyfer 2021-2022.
Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi nodi'r
safbwynt gwahanol i undeb llafur y GIG o ran yr hyn y credant sy’n godiad
cyflog teg a fforddiadwy ac wedi cyflwyno sylwadau pellach i Gorff Adolygu
Cyflogau'r GIG i gadarnhau nad oes cap mympwyol wedi'i bennu.
Yn credu y dylai'r cyrff adolygu cyflogau adrodd yn
annibynnol ar dâl sy'n deg ac yn fforddiadwy.
Yn cydnabod bod GIG Cymru yn talu'r Cyflog Byw
Gwirioneddol, bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Cyflog Byw Gwirioneddol fel
lleiafswm cyfradd gyflog i weithwyr gofal cymdeithasol ac wedi sefydlu'r Fforwm
Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol sy'n edrych ar sut y gellir gwella telerau ac
amodau yn y sector.
Yn cydnabod bod un o themâu allweddol "Cymru
Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol" yn
canolbwyntio ar wobrwyo a chydnabod staff yn deg.
Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
[Os derbynnir Gwelliant 2, caiff Gwelliant 3 ei
dad-ddethol]
Gwelliant 3
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl 'Lywodraeth nesaf
Cymru' a rhoi yn ei le
'i:
a) gweithredu argymhellion y corff adolygu
cyflogau;
b) cyflwyno setliad cyflog a chadw diwygiedig ar
gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol;
c) creu pecyn cymorth iechyd meddwl sylweddol ar
gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n dioddef o effaith y pandemig.
Math o fusnes: Dadl
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2021