NDM7654 Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau y Senedd
NDM7654 Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau y Senedd
NDM7654 Jayne Bryant
(Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad:
Penodi'r Comisiynydd Safonau a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2021
("yr adroddiad").
2. O dan adran 1(2) o Fesur Comisiynydd Safonau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, yn penodi Douglas Bain CBE TD yn Gomisiynydd
Safonau y Senedd o dan y Mesur hwnnw, am gyfnod o chwe blynedd gan ddechrau ar
1 Ebrill 2021.
3. O dan baragraffau 1 a 2 o'r Atodlen i Fesur
Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009:
a) yn cytuno ar becyn taliadau'r Comisiynydd, yn
unol â pharagraff 1(b) o'r Atodlen i'r Mesur hwnnw, fel y nodir yn Atodiad A
i'r adroddiad;
b) yn dirprwyo, yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen
i'r Mesur hwnnw, y gwaith o wneud penderfyniadau ynghylch addasu pecyn
taliadau’r Comisiynydd yn flynyddol i Glerc y Senedd; ac
c) yn dirprwyo, yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen
i'r Mesur hwnnw, y gwaith o bennu’r holl delerau eraill y mae penodiad o'r fath
i gael effaith arnynt i Glerc y Senedd.
Math o fusnes: Dadl
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2021