NDM7606 Dadl y Grwp Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio - Buddsoddiad mewn ysgolion.
NDM7606 Dadl y Grwp Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio - Buddsoddiad mewn ysgolion.
NDM7606 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y diffyg buddsoddi mewn
seilwaith ysgolion dros y degawdau diwethaf wedi golygu nad yw llawer o
ysgolion yn addas at y diben.
2. Yn croesawu buddsoddiadau diweddar fel Rhaglen
Ysgolion yr 21ain Ganrif, ond yn gresynu at y ffaith bod awdurdodau lleol yn eu
defnyddio fel cyfrwng i uno ysgolion.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi terfyn ar greu ysgolion mawr iawn sy'n
niweidiol i brofiad dysgu pobl ifanc;
b) sicrhau nad yw awdurdodau addysg lleol yn
defnyddio diffyg buddsoddiad fel esgus i gau ysgolion cymunedol; a
c) cyhoeddi canllawiau i awdurdodau addysg lleol i
sicrhau nad oes rhaid i ddisgyblion ysgol deithio mwy na 15 munud mewn car neu
ar gludiant cyhoeddus i fynychu eu hysgol agosaf.
Cyflwynwyd y gwelliannu a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael
cyfle i ddysgu yn yr amgylcheddau dysgu gorau.
2. Yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am
gynllunio lleoedd ysgol ac am ddewis model dysgu priodol ar gyfer ardal
benodol.
3. Yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol, wrth wneud
newidiadau mawr i ysgolion, gan gynnwys cau ysgolion, gydymffurfio â’r Cod
Trefniadaeth Ysgolion ac ystyried ystod o ffactorau – yn bennaf oll, buddiannau
dysgwyr.
4. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru:
a) wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn ystâd ysgolion a
cholegau, ac yn parhau i wneud hynny drwy ei Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar
gyfer yr 21ain Ganrif;
b) am fuddsoddi mwy na £300 miliwn yn ein hysgolion a’n
colegau eleni; y gwariant blynyddol uchaf ers cychwyn y rhaglen;
c) yn craffu ar y buddsoddiad yn y Rhaglen Ysgolion
a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif i sicrhau bod dulliau teithio llesol yn
rhan allweddol o’r ddarpariaeth newydd; a
d) yn adolygu Mesur Teithio gan Ddysgwyr
(Cymru) 2008, sy’n pennu’r amodau ar gyfer awdurdodau lleol o ran y gofyniad i
ddarparu dull teithio i ddysgwyr rhwng y cartref a’r ysgol, i sicrhau ei fod yn
parhau yn addas i’r diben.
Rhaglen Ysgolion a
Cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif
Mesur Teithio gan Ddysgwyr
(Cymru) 2008
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Mark Isherwood (Gogledd
Cymru
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi terfyn ar danariannu disgyblion yng Nghymru;
b) darparu cyllid teg i awdurdodau lleol i ddiogelu
ysgolion gwledig;
c) cyflwyno prosiectau yng ngham B Rhaglen Ysgolion a
Cholegau'r 21ain Ganrif i ddechrau ailadeiladu Cymru;
d) sicrhau bod pob ysgol newydd yn cael ei chynllunio
mewn ffordd sy'n ymwybodol o anabledd;
e) gwrthsefyll creu ysgolion mawr iawn a sicrhau nad oes
unrhyw ysgol yn cael ei chau yn erbyn dymuniadau'r gymuned;
f) sicrhau na all awdurdodau addysg lleol ddefnyddio
diffyg buddsoddiad fel esgus i gau ysgolion lleol; a
g) cynnal archwiliad ledled Cymru o gyflwr yr ystâd
bresennol ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Math o fusnes: Dadl
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/05/2021