Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil y Lluoedd Arfog
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil y Lluoedd Arfog
Cyflwynwyd Bil y
Lluoedd Arfog (y Bil) yn Nhŷ'r
Cyffredin ar 26 Ionawr 2021.
Mae teitl hir y Bil
yn nodi mai ei ddiben “yw parhau â Deddf y Lluoedd Arfog 2006; diwygio’r Ddeddf
honno a deddfau eraill yn ymwneud â’r lluoedd arfog; gwneud darpariaeth ar
gyfer gwasanaeth yn y lluoedd arfog; gwneud darpariaeth ar gyfer pardynau am
rai troseddau milwrol sydd wedi’u diddymu; a dibenion cysylltiedig.”
Mae'r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y
Senedd fel arfer.
Derbyniwyd
y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil y Lluoedd Arfog yn y Cyfarfod
Llawn ar 23 Tachwedd 2021.
Gwaith
Craffu yn y Chweched Senedd
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Mehefin 2021
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 154KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 30
Mehefin 2021.
Cytunodd (PDF
43.6KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
ar y Bil y Lluoedd Arfog (Memorandwm Rhif 2) ei drafod ac y gwneir adroddiad
arno, i’r Senedd, erbyn 21 Hydref 2021.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y
Memoranda (PDF 155KB) ar 6 Hydref 2021. Ymatebodd
(PDF 328KB) Llywodraeth Cymru ar 19 Tachwedd 2021.
Gosododd y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei adroddiad (PDF
401KB) ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar 12 Hydref 2021.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Mai 2021
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 118KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 28 Mai
2021.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol, a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 14
Hydref 2021 (PDF 43.2KB).
Gwaith
craffu yn y Bumed Senedd
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Chwefror 2021
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 85.6KB) ar y Bil gerbron y Cynulliad
Cenedlaethol ar 18 Chwefror 2021.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno
adroddiad arno erbyn dydd Iau 25 Mawrth 2021. (PDF 59.8KB)
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
141KB) ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar 24 Mawrth 2021.
Gellir gweld
rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol,
gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/02/2021