Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu)

Cyflwynwyd Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) 2019-21 (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 5 Chwefror 2020.

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i  ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 17 Chwefror 2020.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Iau 25 Mawrth 2021.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF 91KB) ar 22 Mawrth 2021.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar 23 Mawrth 2021.

Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/02/2021

Dogfennau