P-05-1137 Galwad ar i Lywodraeth Cymru roi cyllid teg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru
P-05-1137 Galwad ar i Lywodraeth Cymru roi cyllid teg i
Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Sue Jones-Davies, ar ôl casglu cyfanswm o 14,338 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym
yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyllid teg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, un
o lyfrgelloedd mawr y byd, ystorfa i drysorau hanesyddol, artistig a deallusol
Cymru. Heb ragor o gymorth gan Lywodraeth Cymru, bydd 30 o swyddi’n cael eu
colli a gwasanaethau’n cael eu cwtogi’n ddifrifol. Mae rhyddid, ffyniant a
datblygiad cymdeithas ac unigolion yn werthoedd dynol sylfaenol, a geir gan
ddinasyddion gwybodus sydd â mynediad diderfyn at syniadaeth, diwylliant a
gwybodaeth.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Er
mwyn sicrhau bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaethau
cynhwysfawr i bawb, gofynnwn i Lywodraeth Cymru gynyddu ei chymorth ariannol, i
sicrhau ei bod yn parhau i fod yn borth gwybodaeth, gan sicrhau cyfleoedd dysgu
gydol oes. Ni ellir disgwyl i lyrgelloedd greu eu hincwm eu hunain yn yr un
modd â busnesau.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/02/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/02/2021