P-05-1133 Dylid addasu maes llafur hyfforddiant athrawon i gynnwys Hyfforddiant Trawsnewidiol a Deallusrwydd Emosiynol

P-05-1133 Dylid addasu maes llafur hyfforddiant athrawon i gynnwys Hyfforddiant Trawsnewidiol a Deallusrwydd Emosiynol

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tracey Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 193 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae arolwg wedi darganfod fod hyd at 33.6% o athrawon yn dweud eu bod yn bwriadu gadael y proffesiwn. Ar hyn o bryd, rydym yn colli 42% o Athrawon Newydd Gymhwyso o fewn 2 flynedd oherwydd y llwyth gwaith a’r gorflinder. Bydd ychwanegu'r pynciau hyn at y maes llafur yn rhoi set sgiliau newydd i athrawon i’w helpu gyda'r pwysau ar hyn o bryd, a bydd y pynciau hyn yn galluogi ein cenhedlaeth nesaf o blant i ddatblygu gwydnwch a deall eu hemosiynau yn well. Mae niwrowyddoniaeth yn esblygu ac mae tystiolaeth yn dangos bod angen cryn newid. Bydd hyn yn cael cryn effaith ar iechyd meddwl ein cenhedlaeth nesaf o blant ac addysgwyr.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae peidio â chynnig addysg am ein systemau mewnol a’r proses o feddwl yn achosi mwy o iechyd meddwl gwael. Wrth i amseroedd newid, rhaid i ni addasu. Fel cyn-athro, rwy’n deall y pwysau sydd ar y system. Bydd dysgu sgiliau cryf o ran deallusrwydd emosiynol, sgiliau meddal 'Alcemi Iaith' a hyfforddiant trawsnewidiol nid yn unig yn galluogi'r athrawon i reoli straen y rôl, ond hefyd yn helpu wrth feithrin cadernid meddwl. Yna, gallant drosglwyddo'r sgiliau hyn i ddisgyblion, gan greu diwylliant newydd o hunanymwybyddiaeth.

 

Byddant yn deall:

*Effaith iaith ar y corff a’r technegau cwestiynu treiddgar a fydd yn caniatáu iddynt hunan-hyfforddi trwy gyfnodau o bwysau, a dysgu ein plant sut i hunan-hyfforddi

*Cael gwared ar batrymau iaith negyddol

*Deall beth sydd wrth wraidd ein harferion

*Ailfeddwl am eu deialog fewnol: patrymau meddwl strategol a rhyddhau emosiynau negyddol

*Hyfforddi eraill yn ystod cyfnodau tyngedfennol ac adegau isel: gan osgoi cynhyrfu’r dyfroedd.

 

A group of hands holding each other

Description automatically generated with low confidence

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 01/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog wedi nodi sut y mae'n ceisio cefnogi gweithwyr addysg proffesiynol yn ystod y cyfnod tra heriol hwn, felly cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Llanelli
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/03/2021