P-05-1125 Dylai deisebau sydd â dros 5,000 o lofnodion fod yn destun dadl, nid cael eu hystyried ar gyfer dadl yn unig

P-05-1125 Dylai deisebau sydd â dros 5,000 o lofnodion fod yn destun dadl, nid cael eu hystyried ar gyfer dadl yn unig

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1125 Dylai deisebau sydd â dros 5,000 o lofnodion fod yn destun dadl, nid cael eu hystyried ar gyfer dadl yn unig

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Martin Obbard, ar ôl casglu cyfanswm o 69 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Os oes gan ddeiseb gefnogaeth 5,000 neu fwy, nid oes rhaid iddi fod yn destun dadl yn y Senedd; cael ei 'hystyried' ar gyfer dadl yn unig y mae.

 

Holl reswm deisebau yw cyfleu llais y cyhoedd. Ar hyn o bryd, os yw deiseb yn cael ei chefnogi'n gryf gyda dros 5,000, dim ond cael ei 'hystyried' ar gyfer dadl y mae.

 

Mae’n amlwg bod deiseb gyda'r fath gefnogaeth o ddiddordeb i’r cyhoedd, ac felly fe gredaf y dylai fod yn destun dadl bob tro, i sicrhau bod barn y bobl yn cael ei hystyried.

 

A person writing on a piece of paper

Description automatically generated with medium confidence

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni’r ffaith bod y Senedd hon ar fin dod i ben, trafod y mater hwn fel rhan o'i waith gwaddol ai argymhellion ar gyfer y Chweched Senedd, gan gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/03/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Sir Drefaldwyn
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/02/2021