P-05-1121 Agor ysgolion i blant gweithwyr allweddol yn unig dros gyfnod clo Ionawr 2021

P-05-1121 Agor ysgolion i blant gweithwyr allweddol yn unig dros gyfnod clo Ionawr 2021

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1121 Agor ysgolion i blant gweithwyr allweddol yn unig dros gyfnod clo Ionawr 2021

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Anna Copperwaite, ar ôl casglu cyfanswm o 560 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Pan fydd Cymru yn y cyfnod clo ym mis Ionawr, dylai ysgolion ond agor i blant gweithwyr allweddol er mwyn lleihau lledaeniad COVID 19. Os bydd pob siop nad yw’n hanfodol yn cau yn ystod y cyfnod clo hwn ni ddylai fod unrhyw broblemau gofal plant i weithwyr nad ydynt yn hanfodol. Dylai plant fynd yn ôl i ddysgu ar-lein ac aros gartref os allant wneud hynny a gadael i’r rhieni benderfynu, heb fod ag ofn o gael dirwy, p’un a yw’n ddiogel i’w plentyn fynychu’r ysgol.

 

A picture containing text, room, table, conference room

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/02/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac o ystyried y ffaith bod amcanion y ddeiseb wedi’u cyflawni, a bod ysgolion ar gau i’r rhan fwyaf o’r disgyblion tan hanner tymor mis Chwefror o leiaf, cytunwyd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/02/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Arfon
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/01/2021