P-05-1115 Atal fferm solar anferth fydd yn dinistrio dolydd hynafol ger y Fenni
P-05-1115 Atal fferm solar anferth fydd yn dinistrio dolydd hynafol ger y Fenni
P-05-1115 Atal fferm solar anferth fydd yn dinistrio
dolydd hynafol ger y Fenni
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan John Sullivan, ar ôl casglu cyfanswm o 258 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
103
erw ym Mhenpergwm ar dir amaeth ardderchog yn Sir Fynwy.
Mae’r
safle bron yr un mor fawr â’r tair aráe paneli solar sydd yn yr ardal yn barod
gyda’i gilydd. Ble fydd nesaf?
Oherwydd
maint y safle a’i hamlygrwydd, bydd unrhyw gais cynllunio yn cael ei benderfynu
gan Lywodraeth Cymru yn hytrach na Chyngor Sir Fynwy, sydd wedi gwrthod y Cais
Sgrinio Amgylcheddol a gyflwynwyd gan y datblygwyr ar ran Great House Energy.
Mae
Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cais er gwaethaf sawl canfyddiad amheus.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Mae tri llwybr troed cyhoeddus, yn ogystal â llwybr
ceffylau, yn croesi’r dolydd hynafol prydferth hyn, sy’n gartref i berthi,
fflora a ffawna cynhenid.
Mae uchder ac amlygrwydd y safle yn golygu y
gellir ei weld am filltiroedd ym mhob cyfeiriad, o fryn Cleidda, y Blorens a
rhai atyniadau pwysig i dwristiaid a’r cyffiniau.
Bydd yn cael effaith andwyol ar ffermydd a thai
hynafol, prin na fydd yn amgylchynu dau adeilad rhestredig Gradd II a bydd yn
agos i gloddfeydd archeolegol diweddar.
Cafodd y ffyrdd mynediad arfaethedig eu
hadeiladu ar gyfer ceffylau a cherti, ac fe’u defnyddir gan gerddwyr a
merlotwyr – maent yn hollol anaddas ar gyfer traffig cerbydau nwyddau trwm.
Pa mor wyrdd yw ynni solar? Yn aml, caiff y
metelau prinfwyn a metelau trwm a ddefnyddir i gynhyrchu paneli a batris (na
ellir eu hailgylchu ar hyn o bryd) eu cloddio mewn gwledydd tlawd gan weithwyr
sydd ar gyflogau isel ac sy’n cael eu hecsploetio, cyn i’r deunyddiau hyn gael
eu cludo dros bellterau enfawr.
Rydym ni oll am gael ynni gwyrdd, ond ni ddylid
dinistrio’r gwyrdd i gael ynni. Mae yna nifer o ddewisiadau amgen.
 phob parch, rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru
wrthod unrhyw geisiadau cynllunio yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â’r datblygiad
hwn.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 26/01/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Mynwy
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/01/2021