P-05-1114 Dylid caniatáu i aciwbigwyr traddodiadol yng Nghymru weithio yn ystod cyfnodau clo

P-05-1114 Dylid caniatáu i aciwbigwyr traddodiadol yng Nghymru weithio yn ystod cyfnodau clo

Wed'i gwblhau

 

P-05-1114 Dylid caniatáu i aciwbigwyr traddodiadol yng Nghymru weithio yn ystod cyfnodau clo

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gwenan Evans, ar ôl casglu cyfanswm o 1,022 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i roi aciwbigo traddodiadol yn yr un dosbarth â thriniaethau meddygol tebyg ar gyfer salwch neu anafiadau, fel y gall clinigau aciwbigo aros ar agor yn ystod y cyfnod clo hwn ac yn y dyfodol. Yn ystod cyfnod atal byr Cymru, mae ceiropractyddion, osteopathiaid a ffisiotherapyddion wedi cael trin cleifion sydd angen gofal brys. Fe'u hystyrir yn ddarparwyr gwasanaethau iechyd hanfodol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Fodd bynnag, cafodd aciwbigwyr eu henwi gan Lywodraeth Cymru yn ddarparwyr gwasanaeth cysylltiad agos (wedi'u rhestru ochr yn ochr â gwasanaethau tatŵ a gwallt a harddwch) sy'n gorfod cau yn ystod y cyfnod atal byr, er gwaethaf y ffaith eu bod yn aml yn gweld cleifion sydd angen gofal brys.

Teimlwn yn gryf y dylid caniatáu i aciwbigwyr barhau i drin cleifion, gan y bydd hynny yn ei dro yn helpu i ysgafnhau’r pwysau ar y GIG. Cymeradwyir aciwbigo gan NICE ar gyfer trin llawer o gyflyrau, ac mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol wedi cytuno â Chyngor Aciwbigo Prydain y gellir cymharu aciwbigo yn uniongyrchol ag osteopatheg a cheiropracteg.

Defnyddir aciwbigo traddodiadol i drin cyflyrau nad oes gan y GIG fawr i'w gynnig ar eu cyfer, gan gynnwys poen difrifol yng ngwaelod y cefn, clunwst, gorbryder, straen, meigryn a chyflyrau cronig fel Covid hir.

Ystyriwch lofnodi'r ddeiseb hon fel y gall ein Llywodraeth weld faint o bobl sy'n credu bod aciwbigo traddodiadol yn wasanaeth gofal iechyd hanfodol.

 

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/02/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac o ystyried bod y deisebydd yn derbyn bod y fersiwn ddiweddaraf o reoliadau Coronafeirws yn rhestru gwasanaethau aciwbigo fel “mangreoedd esempt”, a all agor os ydynt yn darparu triniaethau meddygol, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/02/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • De Caerdydd a Phenarth
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/02/2021