P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru

P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rhys Bowler, ar ôl casglu cyfanswm o 779 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:        

Mae gan Rhys gyflwr Nychdod Cyhyrol Duchenne. Mae'n byw mewn ofn am ei fywyd bob dydd, ac yn cael ei adael ar ei ben ei hun am oriau’n gobeithio na fydd y peiriant anadlu y mae’n dibynnu arno yn torri. Rhaid iddo ddewis rhwng gofal cymdeithasol a ariennir yn wael a phecyn Gofal Iechyd Parhaus y GIG sy’n golygu nad yw’n cael dewis pwy sy'n gofalu amdano.

 

Pe bai Rhys yn byw yn Lloegr, byddai ganddo gyllideb iechyd bersonol, a fyddai’n caniatáu iddo ddefnyddio Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn ogystal â gallu dewis pwy sy'n gofalu amdano. Nid yw hyn ar gael yng Nghymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Rhys ydw i, rydw i’n 33 oed ac yn byw gyda Nychdod Cyhyrol Duchenne ym Mhontypridd, Cymru. Mae gen i anawsterau symud sylweddol ac mae angen peiriant anadlu arnaf er mwyn anadlu.

 

Rydw i wedi cyflogi fy nghynorthwywyr gofal fy hun ers degawdau ac mae gennyf lawer o brofiad o'u hyfforddi a'u cyflogi. Rydw i wedi cael profiadau gwael wrth ddefnyddio asiantaethau a pheidio gallu dweud fy marn o ran pwy sy'n gofalu amdanaf. Rydw i eisiau dewis fy nghynorthwywyr gofal fy hun. Rydw i eisiau gwybod pwy sy'n dod i’m cartref i'm helpu gyda fy ngofal personol, ac rwyf am iddynt fod yn bobl rwy’n ymddiried ynddynt ac sydd wedi’u hyfforddi o ran y ffordd orau i ddarparu gofal i mi. Peidiwch â gadael i'm profiad gael ei wastraffu!

 

Rydw i eisiau Cyllideb Iechyd Bersonol er mwyn i mi gael gofal 24 awr a chael dewis pwy yw fy nghynorthwywyr gofal. Mae hyn wedi bod ar gael yn Lloegr ers 2014, mae'n hen bryd i Gymru gymryd hyn o ddifrif a dechrau rhoi dewis a rheolaeth go iawn i bobl dros y gofal maen nhw'n ei gael.

 

A close - up of some coins

Description automatically generated with medium confidence

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 03/07/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a llongyfarchodd y deisebydd ar ei ymgyrchu llwyddiannus dros nifer o flynyddoedd. Roedd yr Aelodau’n croesawu’r canlyniad cadarnhaol, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i gyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus. O ystyried hyn, cytunodd yr Aelodau felly i gau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Pontypridd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/01/2021