P-05-1105 Gwnewch hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn orfodol mewn ysgolion

P-05-1105 Gwnewch hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn orfodol mewn ysgolion

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1105 Gwnewch hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn orfodol mewn ysgolion

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Matthew James Copp, ar ôl casglu cyfanswm o 1,170 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Cyhoeddwyd y llynedd na fyddai hyfforddiant CPR yn rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru. Mae hyn yn wahanol i Loegr a'r Alban, lle mae hyfforddiant CPR yn cael ei wneud yn orfodol mewn ysgolion. Er bod Kirsty Williams wedi dweud nad oes dim byd yn rhwystro ysgolion rhag addysgu CPR, ni fydd y Senedd yn gorfodi hyn. Rydym yn pryderu y bydd hyn yn peri i rai ysgolion beidio â darparu mynediad at hyfforddant i ddysgu'r weithdrefn achub bywyd, gan arwain at gynnydd yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i ataliad y galon yng Nghymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae llawer o dystiolaeth i ddangos bod adnabod ataliad y galon yn gynnar a darparu CPR yn gwella'r cyfraddau goroesi yn dilyn ataliad. (1) Fodd bynnag, nodwyd bod petrustod ymhlith y cyhoedd yn broblem. (2) y prif reswm am hyn oedd ofn achosi anafiadau ychwanegol oherwydd diffyg sgiliau priodol. Yn ogystal, canfuwyd bod y tebygolrwydd y byddai rhywun yn cael CPR yn cael ei ddylanwadu gan oedran a rhyw y dioddefwr.

Mae'r rhain yn faterion na ellir mynd i'r afael â hwy a'u brwydro oni bai bod hyfforddiant digonol ledled HOLL ysgolion Cymru, a gobeithiwn y bydd y Senedd yn cymryd camau priodol i gefnogi ei ddinasyddion.

 

1. Ibrahim W. Recent advances and controversies in adult cardiopulmonary resuscitation. Postgraduate Medical Journal. 2007;83(984):649-654.

2. Becker T, Gul S, Cohen S, Maciel C, Baron-Lee J, Murphy T et al. Public perception towards bystander cardiopulmonary resuscitation. Emergency Medicine Journal. 2019;36(11):660-665.

 

A close - up of a stethoscope

Description automatically generated with medium confidence

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/02/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd y rhinwedd yn yr hyn roedd yn ei gynnig. Nododd y Pwyllgor fod Aelodau o’r Senedd yn gallu cynnig gwelliannau i’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)  ar hyn o bryd fel rhan o’r broses o graffu ar ddeddfwriaeth. Gan y bydd y Bil yn pennu strwythur a chynnwys Cwricwlwm newydd Cymru, gan gynnwys pa elfennau sy’n orfodol, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer mwy y gallai ei wneud ar hyn o bryd a chytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/02/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gwyr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/01/2021