Cydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau perthnasol yn unol â'r Protocol rhwng Llywodraeth Cymru a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - hysbysiad ynghylch rheoliadau a osodir gerbron Senedd y DU

Cydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau perthnasol yn unol â'r Protocol rhwng Llywodraeth Cymru a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - hysbysiad ynghylch rheoliadau a osodir gerbron Senedd y DU

Yn unol â Rheol Sefydlog 30C, rhaid i aelod o Lywodraeth Cymru osod datganiad ysgrifenedig gerbron y Senedd i roi hysbysiad ynghylch offeryn statudol perthnasol a wnaed, neu a fydd yn cael ei wneud, gan un o Weinidogion y Deyrnas Unedig sy’n gweithredu’n unigol o dan adran 8, adran 9 neu adran 23 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, neu o dan Atodlen 4 iddi, sy’n cynnwys darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.

 

Ym mis Tachwedd 2020, cafodd y Protocol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y gwaith craffu ar reoliadau sy’n deillio o ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ei atgyfodi a’i ddiwygio i gynnwys cytundeb bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddilyn egwyddor proses Rheol Sefydlog 30C pan mae Gweinidogion Cymru yn cydsynio i reoliadau a wneir o dan:

 

  • adrannau 12, 13 a 14 o Ddeddf 2020;
  • adrannau 8A, 8B neu 8C o Ddeddf 2018 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf 2020); ac
  • y Bil Amaethyddiaeth, y Bil Pysgodfeydd, Bil yr Amgylchedd a’r Bil Masnach pan fyddant wedi’u deddfu;

 

lle mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i beidio â deddfu fel rheol mewn meysydd datganoledig cyn gofyn am gydsyniad Gweinidogion Cymru.




Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/01/2021

Dogfennau