Ymchwiliad i Glastir

Ymchwiliad i Glastir

Glastir: Cylch Gorchwyl

Mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i Glastir, sef cynllun amaeth-amgylcheddol Llywodraeth Cymru.

Diben yr ymchwiliad yw:

  • asesu’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru wrth ddarparu’r cynllun;
  • casglu safbwyntiau rhanddeiliaid am y cynllun a sut y gellid ei wella;
  • cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru am y modd y caiff y cynllun ei ddarparu.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried:

  • pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion arolwg annibynnol Rees Roberts o Glastir ac a yw’r rheini wedi bod yn effeithiol?
  • pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad ‘Hwyluso'r Drefn’, fel y mae'n ymwneud â Glastir?
  • a oes unrhyw bethau sy’n dal yn rhwystro’r diwydiant rhag cael mynediad i’r cynllun, a sut y gellid mynd i’r afael â’r rhain?
  • beth yw safbwyntiau rhanddeiliaid am wahanol elfennau’r cynllun?
  • y trefniadau cyllido ar gyfer y cynllun, ac yn benodol:

-a oes digon o hyblygrwydd rhwng y cyllido ar gyfer gwahanol elfennau’r cynllun?

-a yw’r costau ar gyfer y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael dan Elfen Cymru Gyfan a’r Elfen wedi’i Thargedu yn adlewyrchu cyflwr y farchnad?

-a cyllid sydd ar gael i ffermwyr mewn ardaloedd llai ffafriol sy’n dod i mewn i’r cynllun.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/04/2013

Dogfennau