P-05-1085 Gwneud hyfforddiant gwrth-hiliaeth yn orfodol i bob Cynghorydd etholedig ac Aelod o'r Senedd yng Nghymru
P-05-1085 Gwneud hyfforddiant
gwrth-hiliaeth yn orfodol i bob Cynghorydd etholedig ac Aelod o'r Senedd yng
Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jennifer Geroni, ar ôl casglu cyfanswm o 142
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae hiliaeth strwythurol yn rhoi grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd
ethnig yng Nghymru o dan anfantais sylweddol. Mae gan bob cynrychiolydd
etholedig a ariennir gan drethdalwyr ddyletswydd i gynnal egwyddorion tegwch a
chydraddoldeb i bawb. Bydd hyfforddiant gwrth-hiliaeth yn rhoi gwell
dealltwriaeth iddynt o hiliaeth strwythurol ac yn rhoi’r offer iddynt i’w helpu
i'w ddatgymalu. Mae hwn yn bwysig i symud y sgwrs yn ei blaen ar lefel
genedlaethol a lleol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/01/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/12/2020