P-05-1084 Dysgwch blant Cymru am sut y gwnaeth Cymru wladychu Patagonia

P-05-1084 Dysgwch blant Cymru am sut y gwnaeth Cymru wladychu Patagonia

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1084 Dysgwch blant Cymru am sut y gwnaeth Cymru wladychu Patagonia

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jessica Dyer, ar ôl casglu cyfanswm o 103 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Rhaid cynnwys sut y gwnaeth Cymru wladychu Patagonia yn y cwricwlwm. Mae’r hanes yn cael ei gyfleu fel uniad hyfryd dwy wlad dra gwahanol ond mewn gwirionedd, mae’n anwybyddu hanes hawliau dynol. Roedd bob amser yn cael ei addysgu fel ffordd o gadw’r iaith Gymraeg yn fyw drwy ei chyflwyno i un o wledydd De America, ond mewn gwirionedd cafodd pobl Cymru eu cyflwyno i Batagonia i “wareiddio” cymunedau, sy’n deillio o ideolegau hiliol ac nid yw hynny’n cael ei addysgu mewn ysgolion.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Adnoddau:

 

Welsh in Patagonia, Lucy Taylor

The Welsh in Patagonia, Jeremy Wood

The Welsh Way of Colonisation in Patagonia: The International Politics of Moral Superiority, Lucy Taylor

Patagonia, an Example of Welsh ‘Colonialism’, Darren Devine

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/01/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/12/2020