Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor arfaethedig - Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021

Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor arfaethedig - Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021

Mae Adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i'w Mawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddiwygio Atodlen 7 i Ddeddf 2006 , ar yr amod bod drafft o'r Gorchymyn wedi cael ei gymeradwyo yn gyntaf gan y Cynulliad a dau Dŷ Senedd y DU.

 

Mae Rheol Sefydlog 25 yn nodi'r weithdrefn y dylid ei dilyn mewn perthynas â thrafod Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor sydd i'w gwneud o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Bydd Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021 yn cywiro nifer o ddiffygion yn Atodlenni 7A a 7B i Ddeddf 2006 sy'n deillio o’r DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a chywiro gwallau drafftio a fewnosodwyd i Ddeddf 2006 gan Ddeddf Cymru 2017. Bydd hefyd yn darparu eithriad o’r gofynion cydsyniad yn Atodlen 7B mewn perthynas â swyddogaethau cydredol a chydredol plws a grëwyd gan ddeddfwriaeth ymadael â’r UE a Deddf y Coronafeirws 2020.

 

Cafodd y Gorchymyn arfaethedig ei osod gerbron y Senedd ar 10 Rhagfyr 2020.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Gorchymyn arfaethedig at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i'w ystyried yn fanwl. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 14 Ionawr 2021.

 

Yn dilyn gwaith craffu’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Gorchymyn arfaethedig, cafodd y Gorchymyn drafft [Saesneg yn unig] a’r Memorandwm Esboniadol [Saesneg yn unig] eu gosod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2021.

 

Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/12/2020

Dogfennau