P-05-1096 Dileu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o'r elfen orfodol o Fil Cwricwlwm 2020

P-05-1096 Dileu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o'r elfen orfodol o Fil Cwricwlwm 2020

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1096 Dileu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o’r elfen orfodol o Fil Cwricwlwm 2020

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Kimberley Isherwood, ar ôl casglu cyfanswm o 5,307 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) yn rhan o broses o gyflwyno addysg rhywioldeb fyd-eang nad yw'n briodol ar gyfer y wlad hon. Mae'n rhywioli plant, yn methu â diogelu, yn ymddangos i’r darllenydd fel modelau o droseddu, yn cynnwys rhwystrau i ddatgelu, ac nid yw adrannau’r awdurdodau lleol sy’n gysylltiedig wedi cael hyfforddiant digonol i weld yr arwyddion o gam-drin plant yn rhywiol, camfanteisio, ymddygiad rhywiol niweidiol, a llawer mwy! Yn ogystal â hynny, mae gennym dystiolaeth bod diffyg dealltwriaeth gan y rhai sy'n ymwneud â Chwricwlwm Cymru o’r broses gyflwyno fyd-eang hon.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym yn brwydro yn erbyn y ddeddfwriaeth, nid addysg. Nid oes mesurau diogelu ar waith. Mae'r ymchwil yn gwbl annigonol drwyddi draw. Dyma rai lincs i erthyglau, gwefannau a rhai pynciau ymchwil posibl sy'n ymwneud ag addysg rhywioldeb:

"Sefydliad Iechyd y Byd- Standards in sexuality Education 2010 " https://www.euro.who.int/en/health-topics/Life-stages/sexual-and-reproductive-health/news/news/2010/12/standards-for-sexuality-education-in-europe-start-their-way-to-countries-of-eastern-europe-and-central-asia 

"UNESCO- International technical guidance on sexuality education 2018". https://unesdoc.unesco.org/ark:/48223/pf0000260770 

https://llyw.cymru/canllawiau-drafft-ar-addysg-cydberthynas-rhywioldeb    (MAE’R LINC UNIONGYRCHOL AR DUDALEN 4)

 

Mae grwpiau eraill sy'n ymgyrchu yn erbyn addysg rhywioldeb mewn ysgolion yn cynnwys:

• The Scottish Family Party

• Family Watch

• School gate campaign, Lloegr

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 26/02/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Aberafon
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2020