Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol

 

Cynigiodd Llywodraeth Cymru sesiynau briffio i bwyllgorau'r Senedd cyn i’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol newydd ddod i rym ar 31 Mawrth 2021.

 

Byddai'r sesiynau briffio hyn yn rhoi cyfle i Aelodau'r Pwyllgor ddeall y fframwaith deddfwriaethol a'r egwyddorion sy’n sail i’r ddyletswydd.

Bydd cychwyn Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodedig, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, wrth wneud penderfyniadau strategol fel penderfynu ar flaenoriaethau a gosod amcanion, i ystyried sut gallai eu penderfyniadau helpu i leihau anfantais economaidd-gymdeithasol.

 

Math o fusnes:

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/10/2022