Ymchwiliad i Horizon 2020
Ymchwiliad i Horizon 2020
Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad
byr i'r cynigion Horizon 2020, a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ym mis
Tachwedd 2011.
Roedd y Pwyllgor
wedi ystyried y cysylltiadau posibl rhwng Horizon 2020 a’r cynigion a wnaed ar
gyfer Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, yn benodol o ran creu
synergeddau gyda’r nod o wella perfformiad cyffredinol prifysgolion a busnesau
Cymru mewn perthynas â rhaglenni ymchwil yr UE.
Cylch gorchwyl
- asesu effeithiau posibl cynigion deddfwriaethol
drafft y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Horizon 2020 yn y dyfodol ar Gymru,
boed yn rhai cadarnhaol neu’n rhai negyddol;
- gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch yr
hyn y dylai Llywodraeth Cymru ei flaenoriaethu wrth geisio dylanwadu ar
safbwynt Llywodraeth y DU yng Nghyngor y Gweinidogion, a bwydo’r
argymhellion hyn i mewn i’r trafodaethau sy’n cael eu cynnal ym Mrwsel
(gan gynnwys y trafodaethau yn Senedd Ewrop);
- asesu’r cyfleoedd sydd ar gael i greu synergeddau
rhwng Horizon 2020 a Chronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru yn y
dyfodol, gyda’r nod o wella cyfranogiad Cymru yn Horizon 2020.
- ystyried sut y mae strategaeth gwyddoniaeth Cymru, a
pholisïau eraill Llywodraeth Cymru sy’n berthnasol i’r mater dan sylw, yn
ceisio cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i sefydliadau yng Nghymru i elwa
ar gyllid ymchwil ac arloesi’r UE yn y dyfodol.
Linc i’r
cynigion:
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/05/2013
Dogfennau
- Horizon 2020: Adroddiad Cyfnod 2 - Mai 2013 PDF 681 KB
- Horizon 2020: Adroddiad Cyfnod 1 - Gorffennaf 2012 (PDF 551KB)
- * Ymateb Llywodraeth Cymru ar Horizon 2020: Adroddiad Cyfnod 1 - Medi 2012 PDF 296 KB Gweld fel HTML (3) 43 KB
- Ymchwiliad i Horizon 2020 PDF 74 KB Gweld fel HTML (4) 11 KB
- Ymweliad â Phrifysgol Glyndŵr ac OpTIC PDF 238 KB Gweld fel HTML (5) 52 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad H01. GeoLang Ltd (Saesneg yn unig) PDF 251 KB Gweld fel HTML (6) 12 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad H02. Pembrokeshire County Council (Saesneg yn unig) PDF 243 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad H03. WLGA (Saesneg yn unig) PDF 221 KB Gweld fel HTML (8) 28 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad H04. Prifysgol Aberystwyth PDF 144 KB Gweld fel HTML (9) 17 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad H05. ADS (Saesneg yn unig) PDF 235 KB Gweld fel HTML (10) 60 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad H06. HEFCW PDF 620 KB Gweld fel HTML (11) 91 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad H06. HEFCW Atodiad 1 PDF 163 KB Gweld fel HTML (12) 14 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Cyfnod 2 y Pwyllgor ar Horizon 2020 (Saesneg yn unig) PDF 232 KB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i Horizon 2020 (Wedi ei gyflawni)