Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru

Cyhoeddwyd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru ym mis Ionawr 2012.  Roedd yr adroddiad yn ystyried a oedd landlordiaid wedi gwneud cynnydd da i wella ansawdd tai cymdeithasol yn unol â gofynion Safonau Ansawdd Tai Cymru. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Safonau yn 2002 fel y safon ofynnol ar gyfer cartrefi a phennodd darged y dylai pob tŷ cymdeithasol gydymffurfio â gofynion y Safonau erbyn diwedd 2012.

Mae prif elfennau'r Safonau'n cynnwys bod cartrefi:

·       mewn cyflwr da;

  • yn ddiogel;
  • yn ddigon cynnes, yn rhad ar danwydd ac wedi'u hinsiwleiddio'n dda;
  • yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern;
  • yn cael eu rheoli'n dda (ar gyfer tai rhent);
  • mewn mannau deniadol a diogel; a
  • chymaint â phosibl, yn addas i anghenion penodol y teulu, er enghraifft, yn addas ar gyfer anableddau penodol.

Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi o'r dechrau bod Llywodraeth Cymru wedi nodi'r buddiannau cyffredinol y gellir eu cael yn sgil y gwaith i gyrraedd y Safonau. Mae'r rhain yn cynnwys creu swyddi ac adfywio ardal, yn ogystal ag iechyd, lles a diogelwch gwell. Roedd ymgynghori'n well â thenantiaid a'u cynnwys fwy yn y broses o reoli tai hefyd yn ganlyniadau pwysig. Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod sawl tenant wedi gweld gwelliannau sylweddol yn ansawdd eu tai, er na chaiff y nod gwreiddiol y byddai pob tŷ cymdeithasol yn cyrraedd y Safonau Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012 ei sicrhau. Daeth yr adroddiad i'r casgliad hefyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n ddigon cyflym i gefnogi a monitro cynnydd ac nid yw wedi rhoi fframwaith effeithiol ar waith i ddangos gwerth am arian o'r buddsoddiad sylweddol sydd wedi'i gynllunio i gyrraedd y Safonau.

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i'r Safonau, lle archwiliwyd y canlynol:

·       Cyflawniadau'n cyrraedd y Safonau yn ôl targedau

  • Gwendidau yn arweinyddiaeth a gwaith monitro Llywodraeth Cymru

·       Dyfodol y Safonau

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/04/2014

Dogfennau