Ymchwiliad i bolisi ar amddiffyn plant rhag yr haul mewn ysgolion

Ymchwiliad i bolisi ar amddiffyn plant rhag yr haul mewn ysgolion

Ar 4 Hydref 2011, cafodd Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol ddeiseb gan elusen ganser Tenovus a oedd yn dweud:

“Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddarparu eli haul am ddim i bob plentyn o dan 11 oed yng Nghymru.”

 

Cyfeiriwyd y ddeiseb i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i’w hystyried. O ganlyniad, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu cynnal ymchwiliad byr i bolisi ar amddiffyn plant rhag yr haul mewn ysgolion, a roedd yn ystyried nid yn unig a yw eli haul ar gael a’r defnydd ohono, ond hefyd faterion eraill yn ymwneud ag amddiffyn plant rhag yr haul, fel darparu cysgod mewn ysgolion a gwisgo dillad addas y tu allan.

 

Er mwyn cynorthwyo’r ymchwiliad, roedd y Pwyllgor yn croesawu sylwadau ysgrifenedig am amddiffyn plant a phobl ifanc rhag yr haul, yn yr ysgol neu mewn gofal, ac yn enwedig ynghylch yr hyn a ganlyn:

 

  • a yw’r polisïau a’r canllawiau presennol ar gyfer ysgolion ar amddiffyn plant rhag yr haul yn effeithiol o ran eu hamddiffyn rhag yr haul, ac, os nad ydynt, lle y mae angen gwella;
  • a oes digon o ymwybyddiaeth o’r polisïau a’r canllawiau presennol ar amddiffyn pobl rhag yr haul, ac, os nad oes, beth yw’r ffordd orau i godi ymwybyddiaeth;
  • a oes ffactorau sy’n rhwystro plant a phobl ifanc rhag defnyddio dulliau o amddiffyn eu hunain rhag yr haul mewn ysgolion, gan gynnwys eli haul, dillad addas, hetiau neu gysgod, er enghraifft o ran cost neu athrawon neu warchodwyr plant yn rhoi’r eli haul arnynt, ac, os felly, sut y gellid eu datrys.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/02/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau