P-05-1068 Caniatáu cyfarfodydd ymbellhau cymdeithasol mewn gerddi preifat i ddilyn y wyddoniaeth ac osgoi teimlo'n ynysig
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rachel Emma Ovett, ar ôl casglu cyfanswm o
273 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Cafodd llawer o bobl yng Nghymru a oedd yn gwarchod, neu mewn cartrefi
gofal â mesurau llym a orfodwyd ar breswylwyr, eu gadael i deimlo’n ynysig am
fisoedd ar gost enfawr i lesiant meddwl a chorfforol. Addawodd y llywodraeth na
fyddai hyn yn digwydd eto. Mae cwrdd ag anwyliaid yn yr awyr agored mewn gardd
breifat reoledig yn ffordd ddiogel i unrhyw un osgoi cael ei ynysu pan nad oes
caniatâd i fynd i fannau cyhoeddus, neu pan mae pobl yn rhy ofnus i wneud
hynny. Mae hyn yn golygu bod miloedd o bobl agored i niwed yn cael eu hynysu
unwaith eto heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddai'r mwyafrif helaeth o ddinasyddion gofalus sy'n cydymffurfio yn
cyfarfod mewn gerddi preifat heb dorri'r rheoliadau. Nid oes tystiolaeth i
awgrymu y bu mwy o achosion o dorri amodau mewn cartrefi preifat nag mewn
mannau cyhoeddus. Nid oes tystiolaeth i awgrymu y bydd y rhai sy'n diystyru
rheolau Covid yn ymddwyn yn well neu'n cydymffurfio'n well mewn mannau
cyhoeddus yn hytrach na gerddi preifat. Mae'r feirws yn ymledu'n haws y tu
mewn. Mae'r ddadl ynghylch mynd i mewn os caniateir cyfarfod mewn gerddi
preifat yn ddiffygiol, gan fod y llywodraeth yn caniatáu cyfarfod dan do beth
bynnag.
Mae'r feirws yn ymledu'n haws mewn mannau lle mae'n rhaid i bobl symud o
gwmpas a mynd a dod, e.e. tafarndai. Mae alcohol yn effeithio ar farn pobl
felly efallai na fydd pobl yn gallu ymbellhau’n gymdeithasol yn effeithiol ar
ôl yfed. Mae’n anodd rheoli mannau cyhoeddus, strydoedd a pharciau, gyda llawer
o bobl yn mynd a dod i gyfeiriadau gwahanol, gan ei gwneud yn anodd rheoli
pellter, heb unrhyw fai personol, ond gellir rheoli mannau preifat.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd
y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a nododd fod y camau y gofynnwyd
amdanynt yn y ddeiseb bellach yn digwydd o dan Lefel 0. Cytunodd y Pwyllgor i
ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor
hefyd i nodi ei sylwadau ychwanegol yn ymwneud â'r broses ddeisebau, a
chytunodd y bydd y Pwyllgor yn ystyried y rhain wrth iddo ddatblygu ei raglen waith.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 26/01/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/11/2020