P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau "nad ydynt yn hanfodol" yn ystod y cyfyngiadau symud

P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau "nad ydynt yn hanfodol" yn ystod y cyfyngiadau symud

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau “nad ydynt yn hanfodol” yn ystod y cyfyngiadau symud

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gareth Howell, ar ôl casglu cyfanswm o 67,940 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae Llywodraeth Cymru, fel rhan o’i chyfyngiadau “cyfnod atal” 17 diwrnod o hyd, yn gwahardd gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol mewn siopau a gaiff aros ar agor. Nid ydym yn cytuno bod hwn yn gam rhesymegol na darbodus, a bydd yn arwain at fwy o niwed na daioni.

 

Er enghraifft, nid ydym yn cytuno y dylai rhieni gael eu gwahardd rhag prynu dillad ar gyfer eu plant yn ystod y cyfyngiadau symud wrth siopa. Mae hyn yn anghymesur ac yn greulon, ac rydym yn gofyn i’r penderfyniad gael ei wrthdroi ar unwaith.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor yn ffurfiol gryfder y teimlad a fynegir yn y ddeiseb, y safbwyntiau pellach a ddarparwyd gan y deisebydd, ac ymateb Llywodraeth Cymru yn y ddadl a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd. Gan fod y ddeiseb wedi cael ei thrafod a bod cyfyngiadau’r cyfnod atal byr ar ben, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer y gellir ei wneud ar hyn o bryd. Gan hynny, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/12/2020.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gogledd Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/11/2020