P-05-1059 Dylid rhoi mannau addoli mewn dosbarth hanfodol, er mwyn caniatáu i bobl fynd i eglwys yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud

P-05-1059 Dylid rhoi mannau addoli mewn dosbarth hanfodol, er mwyn caniatáu i bobl fynd i eglwys yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1059 Dylid rhoi mannau addoli mewn dosbarth hanfodol, er mwyn caniatáu i bobl fynd i eglwys yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Clyde Thomas, ar ôl casglu cyfanswm o 3,591 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae mannau addoli wedi'u dosbarthu fel mannau nad ydynt yn hanfodol gan Lywodraeth Cymru. Goblygiadau hyn, yn ei hanfod, yw bod eglwysi wedi cael eu rhoi yn yr un dosbarth o ran pwysigrwydd â siopau manwerthu ac ni allant gynnal gwasanaethau yn ystod "cyfnod atal byr" neu "gyfyngiadau symud". Nid oes tystiolaeth bod eglwysi wedi cyfrannu at ledaeniad Covid-19. Mae eglwysi wedi bod yn un o'r enghreifftiau gorau o amgylcheddau sy’n ddiogel o ran Covid-19, ac maent wedi dilyn canllawiau helaeth, afresymol bron, yn llym, i wneud eu rhan dros y genedl.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Er bod rhai wedi dadlau y gall eglwysi barhau i weithredu ar-lein, mae hyn ar draul yr ymdeimlad o gymuned. Mae hyn yn arwain at niwed diangen i bobl, pan nad oes dim tystiolaeth bod eglwysi wedi cyfrannu at ledaeniad Covid-19.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 01/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, cytunodd i nodi'r ohebiaeth a ddaeth i law a chydnabod pwysigrwydd y mater a godwyd. Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb o ystyried bod penderfyniadau blaenorol wedi’u cymryd i osod cyfyngiadau yn dilyn cyngor gwyddonol ac asesiadau effaith, a bod addoldai wedi gallu agor ers diwedd y cyfnod atal byr. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/12/20.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Tor-faen
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/11/2020