P-05-1058 Atal ail gyfnod o gyfyngaidau symud cenedlaethol yng Nghymru

P-05-1058 Atal ail gyfnod o gyfyngaidau symud cenedlaethol yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1058 Atal ail gyfnod o gyfyngaidau symud cenedlaethol yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Taylor Harris, ar ôl casglu cyfanswm o 160 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried gorfodi ail gyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol yng Nghymru. Bydd hyn yn drychineb i fywoliaeth a llesiant pobl.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 01/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i'w nodi, ynghyd â'r ohebiaeth a ddaeth i law. Cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach yn sgil y ffaith bod yr amgylchiadau wedi newid ers cyflwyno'r ddeiseb, ac oherwydd ei bod yn annhebygol iawn y byddai Llywodraeth Cymru yn diystyru'r angen am gyfnodau o gyfyngiadau symud ar hyn o bryd. Wrth wneud hynny cytunodd yr Aelodau i nodi'r teimladau a fynegwyd yn y ddeiseb, diolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/12/20.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Castell-nedd
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/11/2020