P-05-1057 Cynyddu nifer y bobl sy'n cael mynd i dderbyniadau priodas
P-05-1057 Cynyddu nifer y bobl sy’n cael mynd i
dderbyniadau priodas
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Simon Clark, ar ôl casglu cyfanswm o 984 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
gennym briodas wedi'i chynllunio ar gyfer diwedd mis Hydref, ond ar hyn o bryd
ni allwn gael derbyniad i ddilyn gyda'n gwesteion i gyd. Gallem gael pryd o
fwyd mewn bwyty ond nid ‘derbyniad’.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Ar hyn o bryd mae Gogledd Iwerddon yn caniatáu i
leoliadau gyfyngu ar y niferoedd ar sail maint y lleoliad a chadw pellter cymdeithasol
diogel. Hoffem weld hyn yn cael ei gyflwyno yng Nghymru. Byddai hyn yn sicrhau
cydraddoldeb rhwng y diwydiant bwytai / tafarndai a'r diwydiant priodasau.
Mae'r rheoliadau presennol a diffyg amserlen
wrth symud ymlaen wedi gadael cannoedd o gyplau mewn cyflwr o ansicrwydd a dan
bwysau sylweddol yn ystod cyfnod a ddylai fod yr hapusaf yn eu bywydau.
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/12/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Canol Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/11/2020