P-05-1055 Dileu arholiadau TGAU a Safon Uwch

P-05-1055 Dileu arholiadau TGAU a Safon Uwch

Wedi'i gwblhau

P-05-1055 Dileu arholiadau TGAU a Safon Uwch

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Bethan Hellard, ar ôl casglu cyfanswm o 2,088 lofnodion.

Geiriad y ddeiseb:         

Mae myfyrwraig mewn coleg lleol wedi gorfod hunan-ynysu 4 gwaith am fod aelodau o’i dosbarth wedi cael profion Covid cadarnhaol. Mae hyn yn golygu ei bod wedi colli 2 fis o’i haddysg. Ond, ar hyn o bryd, mae disgwyl iddi sefyll arholiadau o hyd, mewn sefyllfa sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol

A picture of a student taking an exam

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a daeth i'r casgliad bod nod y ddeiseb bellach wedi'i chyflawni yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog Addysg fod arholiadau 2021 wedi'u canslo a'u disodli gan asesiadau athrawon. Cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd a’r cefnogwyr a chau’r ddeiseb.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/11/2020.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Brycheiniog a Sir Faesyfed
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/11/2020