P-05-1050 Ei gwneud yn ofynnol i'r Senedd gynnal pleidlais i gymeradwyo cyfyngiadau lleol cyn eu gweithredu

P-05-1050 Ei gwneud yn ofynnol i'r Senedd gynnal pleidlais i gymeradwyo cyfyngiadau lleol cyn eu gweithredu

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1050 Ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gynnal pleidlais i gymeradwyo cyfyngiadau lleol cyn eu gweithredu

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Caleb Harris, ar ôl casglu cyfanswm o 127 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Yn sgil y gwelliant diweddar yn Senedd y DU gan Syr Graham Brady i’w gwneud yn ofynnol i gael cymeradwyaeth Senedd y DU ar gyfer cyfyngiadau pellach, dylid gwneud yr un gofyniad ar gyfer cyfyngiadau yng Nghymru. Gan fod rhyddid sifil pobl yn cael ei gwtogi, dylid cael cydsyniad democrataidd pobl Cymru trwy gynnal pleidlais Aelodau o'r Senedd cyn gweithredu’r cyfyngiadau. Bydd yn helpu i ddarparu atebolrwydd ar gyfer yr ardaloedd hynny sydd wedi'u gosod o dan gyfyngiadau lleol oherwydd y coronafeirws.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae cydsyniad yn hanfodol gyda'r rheoliadau hyn. Mae gan wleidyddion gyfrifoldeb i gynnal rhyddid sylfaenol pobl, gan ddiogelu bywydau pobl hefyd. Mae hyn yn rhywbeth sy'n galw am gydbwysedd gofalus yn achos y coronafeirws. Yn enwedig pan y gall penderfyniadau gael effaith sylweddol ar y cyhoedd mewn sawl ffordd. Felly, dylai cyfyngiadau pellach gael eu pasio trwy bleidlais fwyafrif yn y Senedd.

Y gwelliant isod yw’r sail ar gyfer y ddeiseb hon.

Testun gwelliant Syr Graham Brady: ‘provided Ministers ensure as far as is reasonably practicable that in the exercise of their powers to tackle the pandemic under the Coronavirus Act 2020 and other primary legislation, including for example part 2A of the Public Health (Control of Disease) Act 1984, Parliament has an opportunity to debate and vote upon any secondary legislation with effect in the whole of England or the whole United Kingdom before it comes into effect.’

 

 

A large building

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/01/2021.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Castell-nedd
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/11/2020