P-05-1049 Newid i wyliau ysgol yr haf!

P-05-1049 Newid i wyliau ysgol yr haf!

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1049 Newid i wyliau ysgol yr haf!

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rebecca Mercer, ar ôl casglu cyfanswm o 84 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Hoffwn gyflwyno cynnig i ostwng y gwyliau 6 wythnos i 4 wythnos, ac ychwanegu’r 2 wythnos at wyliau hanner tymor.

Rwy’n credu efallai mai mis Hydref a mis Mai fyddai’n cynnig y budd mwyaf.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwyliau'r haf wedi bod ers amser hir iawn ar eu ffurf bresennol. Rwy'n credu bod bywyd wedi newid a, phe gallem newid y patrwm hwn nawr, gallai roi cydbwysedd da i ni rhwng gwaith a bywyd. Nid dim ond i staff ysgol - gall rhieni fanteisio ar wyliau rhatach hefyd. Gyda 2 hanner tymor sy'n para am 2 wythnos, bydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd a phris gostyngedig ar gyfer y mwyafrif o gyrchfannau. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i rieni gynnal gofal plant fforddiadwy am 4 wythnos, yn hytrach na 6 wythnos. Byddai hyn yn rhoi cyfle i bawb rannu hyn drwy’r flwyddyn. Y gobaith yw y byddai hynny’n arwain at lai o straen i bawb a diwedd i ofni gwyliau’r haf.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 01/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Penderfynodd y Pwyllgor beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb o ystyried bod adolygiad a oedd i ystyried y flwyddyn ysgol, wedi cael ei ohirio oherwydd y pandemig, honiad y Gweinidog Addysg na all ymrwymo adnoddau pellach i hyn ar hyn o bryd, a'r ffaith nad oes gan Weinidogion rôl ffurfiol ar hyn o bryd wrth bennu dyddiadau’r tymor. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/12/20.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Casnewydd
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/11/2020