P-05-1048 Dylid caniatáu i bobl h?n gael mynediad i gyfleusterau chwaraeon awyr agored ar gyfer eu lles corfforol a meddyliol
P-05-1048 Dylid caniatáu i bobl h?n gael mynediad i gyfleusterau chwaraeon awyr agored ar gyfer eu lles corfforol a meddyliol
P-05-1048 Dylid caniatáu i bobl hŷn gael mynediad i
gyfleusterau chwaraeon awyr agored ar gyfer eu lles corfforol a meddyliol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Colin Edmunds, ar ôl casglu cyfanswm o 1,743 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
aelodau hŷn o’r gymdeithas yn aml wedi colli partner ac mae ganddynt gylch
o ffrindiau yn eu clybiau priodol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn clybiau
golff. Efallai bod y clwb y tu allan i'r ardal sydd o dan glo, weithiau dim ond
taith byr y tu hwnt i’r ffin. Mae eleni wedi bod yn anodd i bawb ond mae wedi
bod yn arbennig o anodd i'r grŵp oedran hwn, wrth i’r pandemig effeithio
ar eu hiechyd corfforol a chael effaith ddifrifol ar eu hiechyd meddwl hefyd.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud na ddylid
gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hoedran. Mae achosion o wahaniaethu sy’n
groes i’r Ddeddf Cydraddoldeb yn anghyfreithlon.
Mae newidiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru yn
caniatáu i bobl ifanc deithio allan o ardal sydd dan glo i glwb chwaraeon
personol.
Mae'r weithred hon yn gwahaniaethu yn erbyn pobl
hŷn y mae angen iddyn nhw hefyd ddefnyddio’r fath gyfleusterau.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/11/2020