P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tesni Morgan, ar ôl casglu cyfanswm o 1,462 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Ar 27 Awst 2020, lladdodd ein Bronwen annwyl ei hun ar ôl brwydr hir gyda'i hiechyd meddwl.

 

Rydym ni, fel teulu, wir yn credu y gallai hynny fod wedi cael ei atal. Yn ystod 6 mis olaf ei bywyd, dirywiodd iechyd meddwl Bronwen yn sylweddol. Gwnaeth sawl ymdrech i ladd ei hun, gan roi ei hun mewn sefyllfaoedd peryglus yn rheolaidd. Roedd Bronwen mewn anobaith—nid oedd ei chynllun gofal yn addas at y diben ac roedd hi a'r teulu'n erfyn ar i rywbeth newid.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwnaethom ni, a Bronwen hithau, erfyn ar i rywun wrando arnom. Cawsom ein hanwybyddu.

 

Rydym yn ymdrechu am benderfyniadau ar y cyd ac adolygiadau rheolaidd o gynlluniau gofal a thriniaeth iechyd meddwl. Rydym hefyd yn galw am gyfle i'r berthynas agosaf gyfrannu i’r adolygiadau hynny. Mae canllawiau presennol NICE yn nodi bod penderfyniadau ar y cyd yn hanfodol er mwyn diwallu anghenion y claf.

 

Mae NICE yn nodi bod penderfyniadau ar y cyd yn bwysig er mwyn:

 

trefnu bod dewisiadau gwahanol ar gael i'r claf ac i’r rhain gael eu trafod yn agored.

 

trefnu i’r penderfyniad terfynol gael ei wneud ar y cyd gan y gweithiwr iechyd proffesiynol a'r claf.

 

helpu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i addasu'r gofal neu'r driniaeth yn ôl anghenion yr unigolyn.

 

Nid felly y bu hi yn achos Bronwen. Mae penderfyniadau ar y cyd yn HANFODOL i gleifion gael y gofal gorau sydd wedi'i addasu yn ôl eu hanghenion unigol.

 

Group of People Holding Arms

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 10/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor y flaenoriaeth sydd gan iechyd meddwl ym mlaenraglen waith y Pwyllgor Iechyd a Chymdeithasol a chytunwyd i annog y deisebydd i achub ar y cyfle i gyfrannu i ymgynghoriad y Pwyllgor hwnnw.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am godi mater mor bwysig â hwn.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/12/2020.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Canol Caerdydd
  • Canol De Cymru

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/11/2020