P-05-1044 Sefydlu TGAU Astudiaethau Natur i helpu i baratoi cenedlaethau'r dyfodol i fynd i'r afael â'r bygythiadau sy'n wynebu natur
P-05-1044 Sefydlu TGAU Astudiaethau Natur i helpu i baratoi cenedlaethau'r dyfodol i fynd i'r afael â'r bygythiadau sy'n wynebu natur
P-05-1044 Sefydlu TGAU Astudiaethau Natur i helpu i
baratoi cenedlaethau'r dyfodol i fynd i'r afael â'r bygythiadau sy'n wynebu natur
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Robert Curtis, ar ôl casglu cyfanswm o 210 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Nid
yw ein byd naturiol erioed wedi wynebu cymaint o heriau a bygythiadau o
ganlyniad i waith dyn. Bellach, mae angen creu hanes naturiol Cymru yn fwy nag
erioed o’r blaen. Rhaid inni roi'r sgiliau a'r wybodaeth i genedlaethau'r
dyfodol, a fyddai'n eu galluogi i fynd i'r afael â llawer o'r materion byd-eang
hyn.
Rhaid
i ailymgysylltu â'r byd naturiol ddod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Gallai Cymru arwain y ffordd o ran paratoi ein plant gyda'r arfau sydd eu
hangen i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac argyfyngau difodiant
rhywogaethau.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Cafodd yr alwad am TGAU Astudiaethau Natur ei harwain
yn gyntaf gan Mary Colwell a oedd yn credu nad yw pobl ifanc yn y DU ar hyn o
bryd yn ymgysylltu â natur ddigon a bod hyn yn effeithio ar gadwraeth a
llesiant.
Roedd yr adroddiad eiconig ar Sefyllfa Byd Natur
yn seinio rhybudd i bawb na allwn barhau i weithredu yn ôl yr arfer. Rhoddodd
rybudd amlwg i ni fod y DU, ers 1970, wedi colli 60 y cant o'i bywyd gwyllt, a
bod Prydain yn un o'r gwledydd mwyaf disbyddedig o ran natur yn y byd.
Rhaid inni addysgu pobl ifanc am fygythiadau
byd-eang poblogaeth sy'n ehangu; defnyddio plaladdwyr a chwynladdwyr; llygredd
tir, dŵr ac aer; yr argyfwng hinsawdd; colli pridd; ffermio dwys yn erbyn
ffermio organig; colli cynefin; rhywogaethau goresgynnol; rhywogaethau sydd
mewn perygl o ddiflannu a cholli bioamrywiaeth; gorbysgota; plastigau untro;
datgoedwigo a chymaint, cymaint mwy.
Rhaid inni addysgu plant bod ein bywydau heddiw
ac yfory yn mynd law yn llaw â sicrhau byd naturiol sy’n fywiog, yn doreithiog,
ac yn iach.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni’r gwaith craffu
deddfwriaethol parhaus ar y Bil Cwricwlwm ac Addysg (Cymru) a’r gwaith
cysylltiedig dan arweiniad Cymwysterau Cymru ynghylch cynigion ar gyfer
cymwysterau TGAU yn y dyfodol, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymwysterau
Cymru i’w hysbysu am y ddeiseb, diolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/11/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/11/2020